Cymraeg

Croeso i Berry Smith

Cwmni annibynnol o gyfreithwyr ydym ni, ac mae pob un o’n perchnogion yn ymarfer y gyfraith gyda ni.

Ffeithiau am Berry Smith:

  • Rydym wedi ein lleoli yn Ne Cymru ond rydym yn gweithio ar draws y genedl, ac mae gennym gyrhaeddiad rhyngwladol.
  • Mae gennym 10 o Bartneriaid, sy’n gyson yn cael eu henwi’n arweinwyr yn eu maes yng nghyfeirlyfrau Chambers & Partners a’r Legal 500.
  • Mae gennym bartneriaid ac uwch-gyfreithwyr sy’n rhugl yn y Gymraeg a fyddai’n hapus i weithio gyda chi yn eich dewis iaith.
  • Mae gennym fwy na 50 o weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith, sy’n gallu cynnig gwasanaethau busnes, cyhoeddus, i unigolion ac i deuluoedd, a hynny ar draws ystod eang o sectorau.
  • Rydym yn aelod o Gynghrair Cynaliadwyedd y Gyfraith, sef rhwydwaith cynhwysol o gwmnïoedd a sefydliadau’r gyfraith sydd oll wedi ymrwymo i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, drwy leihau eu hôl-troed carbon a hybu arferion sy’n fwy cynaliadwy i’r amgylchedd.
  • Rydym yn aelod o’r UK200Group, sef prif gymdeithas y DU i aelodau o gwmnïau cyfreithwyr a chyfrifwyr siartredig annibynnol. Mae aelodau’r gymdeithas yn gweithredu ar ran 150,000 o fusnesau bach a chanolig eu maint a chleientiaid preifat.
  • Rydym yn cymryd ein Cyfrifoldebau Corfforaethol o ddifrif (cliciwch yma).

Meysydd arbenigedd ein gwasanaethau busnes

  • Eiddo Masnachol – Mae gennym brofiad helaeth o ddelio â materion a thrafodion sy’n ymwneud ag eiddo, gan gynnwys caffael a gwaredu, prydlesi masnachol, datblygiadau masnachol a phreswyl, a rheoli eiddo. Mae ein gwasanaethau’n amrywio o fod yn brosiectau cymhleth, uchel eu gwerth i faterion bob dydd.
  • Materion Corfforaethol – Mae gennym enw da iawn a hanes hir o weithredu mewn trafodion corfforaethol, a hynny ar gyfer ystod eang o fusnesau, o gwmnïau cyhoeddus cyfyngedig i fusnesau bach a chanolig eu maint, a busnesau a reolir gan eu perchennog. Mae’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu yn rhagweithiol, ac rydym yn gweithio’n agos â’n cleientiaid i wireddu eu hamcanion.
  • Materion Masnachol ac Eiddo Deallusol – Rydym yn rhoi cyngor i ystod eang o fusnesau a sefydliadau am y gyfraith fasnachol a materion eiddo deallusol. Rydym yn cydweithio’n agos â’n cleientiaid i ddod i ddeall eu busnes, er mwyn gallu cynghori sut i ddiogelu a manteisio ar eu buddiannau masnachol. Rydym yn drafftio ac yn rhoi cyngor am ystod eang o gytundebau masnachol.
  • Datrys Anghydfod – Mae gennym brofiad helaeth o gynghori cleientiaid a’u cynrychioli wrth ddatrys pob math o anghydfodau sifil. Rydym yn cydweithio’n agos â nhw bob cam o’r broses, un ai drwy roi cyngor cynnar neu drwy eu cynrychioli wrth ymgyfreitha neu wrth ddilyn dull amgen o ddatrys yr anghydfod. Datrys yr anghydfod a bodloni amcanion ein cleientiaid sydd wrth wraidd ein gwasanaethau.
  • Cyflogaeth – Rydym yn cydweithio’n agos â’n cleientiaid i’w cynorthwyo wrth gyflawni eu swyddogaethau o ran cyfraith cyflogaeth ac adnoddau dynol. Gall hynny olygu rhoi cyngor am faterion bob dydd neu eu cynrychioli yn nhrafodion y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth.

Os hoffech chi weithio gyda ni yn Gymraeg, mae croeso ichi gysylltu â ni ar 029 2034 5511 neu cardiff@berrysmith.com a gofynnwch am gael un o’n cyfreithwyr Cymraeg gysylltu â chi